O Arglwydd, gwna fi'n golofn gre',
Ac yn dy deml dod imi le,
I lynu wrthyt ti yn lân,
Y 'mhob rhyw drallod,
fawr a mân.
Dal fi fy Nuw, dal fi i'r làn,
'N enwedig dal fi lle'r wy'n wan:
Dal fi yn gryf, nes myn'd i maes
O'r byd sy'n llawn
o bechod cas.
Dysg fi, fy Nuw, dysg fi pa fodd
I ddweud a gwneuthur wrth dy fodd;
Dysg fi ryfela â'r
ddraig heb goll,
Ac i orchfygu 'mhechod oll.
Tra caffwyf rodio'r ddaear hon,
Rho'th hedd fel afon
dan fy mron;
Ac yn y diwedd moes dy law
I'm dwyn i mewn i'r nefoedd draw.
William Williams 1717-91
Tôn [MH 8888]: Hamilton (Martin Madan 1725-90) gwelir: Dal fi fy Nuw dal fi [i'r làn / 'mhob man] Dysg fi fy Nuw dysg fi pa fodd Newyddion braf a ddaeth i'n bro Yn fynych fynych Iesu cu |
O Lord, make me a strong pillar,
And in thy temple give me a place,
To stick to thee completely,
In every kind of trouble,
great and small.
Hold me, my God, hold me up,
Especially hold me where I am weak:
Hold me strongly, until I go out
From the world which is full
of detestable sin.
Teach me, my God, teach me how
To speak and act according to thy will;
Teach me to wage war with the
dragon without losing,
And to overcome all my sins.
While I get to walk this earth,
Give thy peace like a river
under my breast;
And at the end give thy hand
To lead me into yonder heaven.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|